Llety modern, llawn steil ar y llawr cyntaf yng nghanol tref Sioraidd Aberaeron, yn edrych dros gae'r dref ac wedi'i leoli'n berffaith yn y dref glan môr
fach hon sy'n enwog am ei harbwr a'i bwytai.
Mae'r llety gwyliau 4 seren hwn yn fawr gyda digon o le a chyfleusterau gan gynnwys teledu plasma ym mhob ystafell wely a theras to hyfryd lle y gallwch wylio'r haul yn machlud. Wedi'i addurno i'r safonau uchaf, mae Llety Hunan-ddarpar Albion yn encil delfrydol ar gyfer ymlacio neu ddadflino ar ôl darganfod hyfrydwch Aberaeron ac
arfordir gorllewinol Canolbarth Cymru.
Llawr cyntaf: Ystafell fyw/fwyta fawr, cynllun agored gyda drysau Ffrengig, cegin oriel a llawr pren. Ystafell aml-bwrpas, ystafell ymolchi ar wahân a
chawod. Dwy ystafell wely ddwbl, un gyda chawod en-suite, pob un gyda gwely 5tr a theledu plasma. Un ystafell gyda phâr o welyau a theledu plasma.
- Trydan a gwresogyddion panel trydan wedi'u cynnwys
- Siopau 10 llath
- 3 teledu Freeview
- Peiriant golchi awtomatig
- Microdon
- Peiriant golchi llestri
- Oergell gyda rhewgell
- Teras to amgaeedig gyda dodrefn
- Duvets gyda lleiniau a thywelion wedi'u darparu