Telerau Defnyddio
Perchnogaeth y Wefan; Cytuno â’r Telerau Defnyddio Mae’r Telerau ac Amodau Defnyddio hyn (y “Telerau Defnyddio”) yn berthnasol i wefan Gwesty'r Castell.
Mae Gwesty'r Castell yn cadw’r hawl, i newid, addasu, ychwanegu neu dynnu darnau o’r Telerau Defnyddio hyn yn annibynnol, ar unrhyw adeg. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio’r Telerau Defnyddio hyn am newidiadau o bryd i’w gilydd. Trwy barhau i ddefnyddio’r Safle ar ôl i newidiadau gael eu huwchlwytho, byddwch yn derbyn ac yn cytuno i’r newidiadau. Cyhyd ag y byddwch yn cydymffurfio â’r Telerau Defnyddio hyn, mae Gwesty'r Castell yn rhoi hawl bersonol, anallgynhwysol, anhrosglwydd, gyfyngedig i chi i fynd i mewn i’r Wefan a’i defnyddio.
Cynnwys:
Mae pob testun, graffeg, rhyngwyneb defnyddiwr, ffotograff, nod masnach, logo, celfwaith a chod cyfrifiadurol (a elwir gyda’i gilydd yn “Gynnwys”), gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gynllun, strwythur, dewis, cydlyniad, mynegiant, “edrychiad a theimlad” a threfniad y cyfryw Gynnwys, a gynhwysir ar y Wefan yn eiddo i, yn cael ei reoli neu ei drwyddedu gan neu i Gwesty'r Castell, ac wedi ei warchod gan gyfreithiau hawlfraint, patent a nod masnach, ac amrywiol hawliau eiddo deallusol a chyfreithiau cystadleuaeth annheg eraill.
Ac eithrio fel y darperir yn unig swydd yn y Telerau Defnyddio hyn, ni cheir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, uwchlwytho, postio, dangos yn gyhoeddus, amgodio, cyfieithu, trosglwyddo na dosbarthu mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys “adlewyrchu”) unrhyw ran o’r Wefan nac unrhyw Gynnwys i unrhyw gyfrifiadur, gweinyddwr, gwefan neu unrhyw gyfrwng arall i’w gyhoeddi neu ei ddosbarthu nac ar gyfer unrhyw fenter fasnachol heb gael caniatâd penodol ysgrifenedig Gwesty'r Castell ymlaen llaw.
Eich Defnydd o’r Wefan:
Ni chewch ddefnyddio unrhyw “ddolen ddofn”, “cribwr tudalen”, “robot”, “corryn” nac unrhyw ddyfais awtomatig, rhaglen, algorithm neu fethodoleg, nac unrhyw broses law gyfatebol, i gael mynediad i, cael, copïo neu fonitro unrhyw ran o’r Wefan nac unrhyw Gynnwys, neu i atgynhyrchu neu drechu mewn unrhyw ffordd strwythur mordwyol neu gyflwyniad y Wefan nac unrhyw Gynnwys, er mwyn cael neu geisio cael unrhyw ddeunyddiau, dogfennau neu wybodaeth trwy unrhyw ddull nad yw’r Wefan yn ei ganiatáu’n fwriadol. Ceidw Gwesty'r Castell yr hawl i wahardd unrhyw weithgaredd o’r fath. Ni chewch geisio cael mynediad heb ganiatâd i unrhyw ran na nodwedd o’r Wefan, nac unrhyw systemau neu rwydweithiau sy’n gysylltiedig â’r Wefan nac i unrhyw weinyddwr o eiddo Gwesty'r Castell, nac i unrhyw wasanaeth a gynigir ar neu drwy’r Wefan, trwy hacio, “cloddio” cyfrineiriau nac unrhyw ddull anghyfreithlon arall.
Ni chewch archwilio, sganio na phrofi gwendid y Wefan neu unrhyw rwydwaith cysylltiedig â’r Wefan, na thorri’r mesurau diogelwch neu ddilysu ar y Wefan neu unrhyw rwydwaith cysylltiedig â’r Wefan. Ni chewch am-edrych am yn ôl, olrhain na cheisio olrhain i’w ffynhonnell unrhyw wybodaeth am unrhyw ddefnyddiwr arall neu ymwelydd â’r Wefan, na neb arall o gwsmeriaid Gwesty'r Castell, gan gynnwys unrhyw gyfrif Gwesty'r Castell nad yw’n eiddo i chi, nac ymelwa ar y Wefan nac unrhyw wasanaeth neu wybodaeth sydd ar gael neu a gynigir gan neu drwy’r Wefan, mewn unrhyw ffordd gyda’r bwriad o ddatgelu unrhyw wybodaeth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i adnabod neu wybodaeth bersonol, ar wahân i’ch gwybodaeth eich hun, fel y darperir ar ei gyfer gan y Wefan.
Rydych yn cytuno na fyddwch yn cymryd unrhyw gamau sy’n gosod baich afresymol neu anghymesur o fawr ar seilwaith y Wefan neu systemau neu rwydweithiau Gwesty'r Castell, neu unrhyw systemau neu rwydweithiau cysylltiedig â’r Wefan neu â Gwesty'r Castell.
Rydych yn cytuno na fyddwch yn defnyddio unrhyw ddyfais, meddalwedd neu reolwaith i ymyrryd neu geisio ymyrryd â gweithrediad cywir y Wefan neu unrhyw drafodyn ar y Wefan, nac â defnydd neb arall o’r Wefan. Ni chewch ffugio penawdau na thrin dynodwyr fel arall er mwyn cuddio tarddiad unrhyw neges neu drosglwyddiad yr anfonwch at Gwesty'r Castell ar neu drwy’r Wefan nac unrhyw wasanaeth a gynigir ar neu drwy’r Wefan. Ni chewch esgus eich bod yn rhywun arall, nac eich bod yn cynrychioli rhywun arall, na phersonadu unrhyw unigolyn neu endid arall.
Ni chewch ddefnyddio’r Wefan nac unrhyw Gynnwys at unrhyw ddiben sy’n anghyfreithlon neu a waherddir gan y Telerau Defnyddio hyn, neu i geisio unrhyw weithgaredd anghyfreithlon neu weithgaredd arall sy’n torri ar hawliau Gwesty'r Castell neu eraill.
Newyddion a Hyrwyddiadau...
Tanysgrifio i dderbyn ein cylchlythyr am ddim a'r e-bost hyrwyddiadau.
Mynediad i'r Rhyngrwyd...
Cadwch mewn cysylltiad trwy ein cysylltiad band eang WiFi di-wifr.