Gweld a Gwneud

Mae Aberaeron yn lle arbennig iawn i aros ac yn encil delfrydol yn agos at draethau hyfryd, yr arfordir, afonydd, coedwigoedd a mynyddoedd.

Cerdded

Mae Canolbarth Cymru yn lle arbennig i chi. Dim tyrfaoedd, dim ffwdan, dim pwysau. Byddwch yn ymweld â chalon Cymru lle mae'r golygfeydd yn odidog, y ffyrdd yn dawel a'r trefi bywiog yn estyn croeso cynnes i chi.

Mwy o wybodaeth - www.walking.visitwales.com


Beicio

Mae natur arfordir Ceredigion yn golygu bod y llwybrau beicio yn Aberaeron a Chei Newydd yn fryniog, ond ar ôl dringo fe gewch y wefr o ddod lawr ar garlam.

Mwy o wybodaeth - www.cycling.visitwales.com


Pysgota

Mae'r llynnoedd, afonydd a môr arfordirol Canolbarth Cymru yn cynnig cyfle ar gyfer pob math o bysgota.

Mwy o wybodaeth - www.fishing.visitwales.co.uk


Chwaraeon Dŵr

Gallwch ddewis o hwylio dingi, cychod modur, hwylfyrddio a chaiacio gyda sesiynau byr a chyrsiau sy'n addas ar gyfer pob lefel a gallu os ydych: yn ddechreuwr pur; hoffech wella eich sgiliau/cymwysterau; adeiladu eich tîm; neu rydych eisiau cael hwyl dros eich penwythnos o wyliau neu wyliau hwy.

  • Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion
  • A Bay To Remember
  • Aberystwyth Marina

Mwy o wybodaeth - www.waleswatersports.co.uk


Golff

I'r rhai sy'n chwarae golff, mae Cymru yn wlad i'w darganfod. Mae'r tirlun wedi'i gynllunio'n berffaith ar gyfer y gêm, mae fel pe bai grymoedd natur wedi cynllwynio i'w wneud felly.

  • Clwb Golff Aberdyfi/Aberdovey
  • Clwb Golff Aberystwyth
  • Clwb Golff Cilgwyn

Mwy o wybodaeth - www.golf.visitwales.com

Aberaeron, De - Traeth y De

Mae tref hardd Aberaeron wedi'i lleoli ar ddechrau dyffryn Aeron. Aberaeron yw un o'r trefi cynlluniedig cyntaf yng Nghymru ac arferai fod yn borthladd ffyniannus, ond erbyn hyn mae'n gyrchfan wyliau brysur sy'n enwog am ei strydoedd cain, sgwariau a thai Sioraidd lliwgar. Mae'r harbwr cerrig hyfryd yn llawn cychod hwylio lliwgar heddiw.


Fferm Fêl Cei Newydd

Mae Fferm Fêl Cei Newydd yn fferm fêl weithredol gyda bron 500 o gychod gwenyn. Mae arddangosfa gwenyn yn yr hen Gapel gyda heidiau byw mewn coed a chychod gwenyn. Dewch i weld sut mae haid gwenyn yn gweithio. Arddangosfeydd clywedol a gweledol. Mae lle cynhyrchu medd hefyd gydag arddangosfa am hanes medd a sut y mae'n cael ei wneud, siop sy'n gwerthu mêl o'n cychod gwenyn, medd wedi'i wneud ar y fferm (gallwch ei flasu) a chynnyrch cysylltiedig. Mae ystafell de hefyd sy'n gweini teisennau cartref, te hufen a phrydau ysgafn.

Mwy o wybodaeth - www.thehoneyfarm.co.uk


Parc Fferm Ffantasi

Antur fawr i'r teulu yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru. Mae rhywbeth yma i bawb o bob oedran i'w fwynhau, o anifeiliaid cyfeillgar i antur gyffrous, neu dewch i ymlacio yn harddwch Parc Fferm Ffantasi.

Mwy o wybodaeth - www.fantasyfarmpark.co.uk


Rheilffordd Cwm Rheidol

"Taith fythgofiadwy trwy dirlun ysblennydd Cwm Rheidol ar drên ager rheilffordd gul."

Rheilffordd Cwm Rheidol yw un o Drenau Bach Cymru a'r rheilffordd ager olaf i fod ym mherchnogaeth Rheilffyrdd Prydain nes iddo gael ei breifateiddio yn 1989. Mae trenau'n gadael o ganol Aberystwyth ar arfordir Cambrian.

Mwy o wybodaeth - www.fantasyfarmpark.co.uk


Trenau Ager Arfordir Cambrian Aberystwyth

Mae trenau ager Arfordir Cambrian yn dechrau naill ai ym Machynlleth neu Aberystwyth, ac yn rhedeg ar hyd Lein Arfordir Cambrian mor bell â Phorthmadog neu Y Bermo trwy rai o olygfeydd arfordirol a mynyddoedd mwyaf trawiadol Cymru. Wrth deithio ar hyd y lein fe welwch dywod gwyn aber Mawddach ac atyniadau enwog Pont Y Bermo, castell Harlech a chastell Criccieth, Mynyddoedd Eryri - a'r cyfan o gerbydau hardd clyd.

Mwy o wybodaeth - www.arrivatrainswales.co.uk


Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw'r ganolfan fwyaf o'i math yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn genedlaethol fel 'canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau'. Mae ganddi raglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol ac fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau.

Mwy o wybodaeth - www.aberystwythartscentre.co.uk


Rhaeadrau Pontarfynach

Ewch am dro ar hyd y Llwybr Natur a gweld y rhaeadrau 300tr ysblennydd a'r tair pont sy'n rhychwantu'r ceunant coediog syfrdanol. Dilynwch ôl-troed yr hen fynachod ar hyd y llwybr ac i lawr Ysgol Jacob (100 o risiau). Cewch glywed hanes sut yr oedd hen wraig a'i chi wedi cael y gorau ar y Diafol. Ddim yn addas ar gyfer yr henoed neu'r anabl oherwydd y grisiau.

Mwy o wybodaeth - www.woodlandsdevilsbridge.co.uk


Mwyngloddiau Arian-Plwm Llywernog

Mwyngloddiau Arian a Phlwm go iawn yn dyddio o 1742 gyda gwaith dan ddaear, adeiladau wedi'u hadnewyddu a pheiriannu, arddangosfeydd ac arddangosiadau. Dewch i ail-fyw 'cyfnod arian' y 1860au. Dewch i chwilio am fwynau a mynd ar y daith dan ddaear o'r hen bwll i'r 'Parth Daeargryn'.

Mwy o wybodaeth - www.silverminetours.co.uk

Ystad Wledig Llanerchaeron

Bydd Ystad Wledig Llanerchaeron yn rhoi golwg gwych i chi o fywyd gwŷr bonheddig a staff yng Nghymru 200 mlynedd yn ôl. Mae'n ddiamser, yn hynod ddiddorol ac yn hollol swynol - profiad na allwch mo'i golli.

Mwy o wybodaeth - www.nationaltrust.org.uk


Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn ein hadeilad yn Aberystwyth, mynydd o wybodaeth am Gymru a'r byd - miliynau o lyfrau ar bob pwnc dan haul, miloedd o lawysgrifau ac archifau, mapiau, lluniau a ffotograffau, ffilmiau a cherddoriaeth a gwybodaeth electronig.

Mwy o wybodaeth - www.llgc.org.uk


Amgueddfa Ceredigion

Mae Amgueddfa Ceredigion wedi'i lleoli mewn Theatr Edwardaidd wedi'i hadnewyddu. Fe'i disgrifiwyd fel 'un o'r amgueddfeydd harddaf ym Mhrydain'.

Mwy o wybodaeth - www.ceredigion.gov.uk


Special Offers

Nodwch fod ein bwyty yn cael ei hail drefnu ac ar gau hyd nes y glywir yn wahanol. Fodd bynnag, mae'r Caffi/Bar ar agor a byddwn yn gweini cinio a byrbrydau ysgafn yn ystod y dydd

Restaurant Food

http://www.castle-hotel-aberaeron.co.uk/restaurant#