Mae'r Castell wedi'i leoli mewn Adeilad Rhestredig Gradd II yn nhref harbwr Sioraidd Aberaeron. Mae'r gwesty wedi cael ei gynllunio gan y Dylunydd Mewnol Ann Hughes gyda lleoliad delfrydol yng nghanol y dref yn agos at yr afon lle y gallwch gerdded i Lwybr Llanerchaeron a Llwybr Traeth yr Harbwr - Cei Newydd neu Lwybr Aberarth / Llannon.
Caffi/Bar ar y llawr gwaelod - wedi'i gynllunio'n unigol gyda theimlad byd-eang, yn gweini bwyd o 12 hanner dydd tan 3pm. Mae prydau bar yn cael eu gweini yn yr hwyr ar ddydd Llun a dydd Mawrth rhwng 6.00pm a 9.00pm. Ceir mynediad i gadeiriau olwyn a thoiledau i'r anabl yn y bar.
Coffi Ffres, Myffins Cartref a Croissants yn cael eu gweini bob dydd rhwng 10am a 10pm. Gallwch eu mwynhau yn y bar neu yn yr awyr agored lle y gallwch wylio'r byd a'r betws. Papurau newydd amrywiol ar gael.